Annwyl Huw,

Parthed: Llais Cryfach i Gymru: ymgysylltu â San Steffan a sefydliadau datganoledig

Diolch i chi am eich gohebiaeth ddiweddar yn tynnu ein sylw at eich ymchwiliad i gysylltiadau rhwng sefydliadau yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig. Byddwch yn ymwybodol bod cylch gwaith y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn cynnwys (ymhlith pethau eraill):

(a) archwilio’r goblygiadau i Gymru oherwydd i’r Deyrnas Unedig benderfynu gadael yr Undeb Ewropeaidd a sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu diogelu yn ystod y broses adael, mewn unrhyw berthynas newydd â’r UE ac yn nhrefniadau gwledydd y DU ar ôl gadael ar gyfer materion perthnasol o ran polisi, cyllid a deddfwriaeth.

Bydd gweithio effeithiol rhwng llywodraethau a rhwng sefydliadau yn chwarae rhan bwysig o ran sicrhau bod ein Pwyllgor yn gallu cyflawni ei gylch gwaith.

Yn ystod ein gwaith cychwynnol ar y goblygiadau i Gymru yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd, amlygodd peth o’r dystiolaeth gwestiynau o ran cadernid cysylltiadau rhynglywodraethol ar hyn o bryd, a’r angen i ymdrin â’r rhain yng nghyd-destun cymhwysedd a rennir ac ailwladoli pwerau pan fydd Cymru yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Wrth ymateb i’ch cais am farn, felly, hoffem dynnu eich sylw at ein

hadroddiad diweddar sy’n archwilio agweddau sy’n berthnasol i’ch ymchwiliad. Yn benodol, bydd yn dda gennych nodi ein canfyddiadau ym mhenodau 9, 10, 11 a 12, gan eu bod yn ymwneud â themâu sy’n berthnasol i’ch ymholiad.

O ran cysylltiadau rhyngseneddol, rydym yn ymgymryd â nifer o weithgareddau gyda chydweithwyr mewn deddfwrfeydd eraill. Mae’r rhain yn cynnwys cymryd rhan yng nghynhadledd y pwyllgorau ‘Brexit’ yn y deddfwrfeydd datganoledig a Chynulliad Llundain, a’m haelodaeth o’r Fforwm EC-UK. Mae ein hadroddiad hefyd yn cyfeirio at y trefniadau rhyngseneddol hyn.

Gobeithio y bydd y wybodaeth hon fod yn ddefnyddiol i chi yn eich trafodaethau ac rydym yn edrych ymlaen at weld eich canfyddiadau maes o law.

Yn gywir,

David Rees AC

Cadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol

Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg.

We welcome correspondence in Welsh or English.